Yn siaradwr Cymraeg rhugl, daw Siân o bentref Drefach yng Nghwm Gwendraeth ac fe aeth i’r ysgol yng Nghaerfyrddin. Graddiodd gyda BA mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd yn 2022, cyn mynd ymlaen i astudio cwrs MA Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Daeth Siân i weithio gyda na nÓg ar leoliad fel rhan o’i MA ym Mai 2023, ac mae nawr yn falch iawn i ddechrau ei gyrfa yn gweithio llawn amser gyda’r cwmni.