Sioe gerdd seicedelig werthodd pob tocyn y llynedd yn Aberystwyth am deithio'r Deyrnas Unedig.

“Gwnaeth y sgript ddoniol ond pryfoclyd, y trac sain pen asid gwych, a'r cast ensemble o actor- cerddorion arbennig y sioe yn un o lwyddiannau fwya'r flwyddyn, a hynny'n haeddiannol ” The Stage

Gadawyd cynulleidfaoedd y llynedd wedi eu syfrdanu wedi profi’r sioe gerddorol unigryw Operation Julie.

“Mae'r gynulleidfa yn gwybod beth mae’n ei wneud. Os yw’n codi ar ei thraed i fynegi ei llawenydd di- rwystr, mae'n adwaith sy’n digwydd am reswm. Perodd y cwmni i hyn ddigwydd.”
Theatre in Wales

Dros bedwar degawd yn ôl, roedd cefn gwlad Gorllewin Cymru yng nghanol y "byst" cyffuriau mwyaf erioed. Arweiniodd ymchwiliad yr heddlu, Operation Julie, at arestio dwsinau o bobol, a darganfyddiad o gyflenwad o LSD gwerth £100 miliwn. Gwanwyn nesaf, bydd drama gerdd hynod lwyddiannus Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn dychwelyd, ac yn archwilio’r stori o'r ddwy ochr – o lygaid yr heddlu, a hefyd yr hipis a oedd wedi ymgartrefu yng Ngheredigion yn y gobaith o ledaenu eu syniadau mewn byd a oedd yn newid o'u cwmpas.

Mae’n bleser gan y cyd-gynhyrchwyr gyhoeddi bod y cast gwreiddiol yn dychwelyd ynghyd â’r tîm creadigol ar gyfer taith gyfyngedig o 6 wythnos fydd yn ymweld â theatrau ledled y wlad.

Mae Operation Julie yn ddrama gerdd sydd yn fwrlwm o ganeuon, drama a chomedi, ac yn adrodd hanes rhyfeddol yr hyn a ddigwyddodd yng Ngorllewin Cymru a’r cyffiniau yng nghanol y 1970au, pan ymgartrefodd hipis yn yr ardal yn chwilio am ffordd newydd o fyw, wedi ei hysbrodoli gan asid ac agwedd amgen at fywyd. Pan ddarganfyddir cliw, ar hap, yn dilyn damwain car, aiff yr heddlu lleol ati ynghyd â ditectifs o bob cwr o Brydain i archwilio achos sy’n troi allan yn y diwedd i ymwneud â'r stash mwyaf o asid a ddarganfuwyd erioed, sydd yn dileu hyd at 60% o gyflenwad LSD y byd ar y pryd. Ymhlith y prif gymeriadau mae Richard Kemp a Christine Bott, cwpl sy'n byw ger Tregaron ac sydd wedi dod o hyd i ffordd o wneud yr LSD puraf welwyd erioed, a'r deliwr twyllodrus, Smiles, sy'n byw yn Llanddewi Brefi.

Mae fersiwn Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o'r digwyddiadau yn dilyn y stori o ddwy ochr y gyfraith, yn dilyn ymchwil yr awdur a’r cyfarwyddwr Geinor Styles, a aeth ati i gyfarfod a chyfweld ag amrywiaeth o bobl o’r cyfnod, gan gynnwys un o’r prif werthwyr asid, Alston ‘Smiles’ Hughes – a oedd yn rhan allweddol o'r gadwyn LSD o’i gartref cymedrol yn Llanddewi Brefi – ac Anne Parry, gwraig y diweddar Dditectif Ringyll Richie Parry.

Mae Operation Julie yn ddrama gerdd, ffurf y mae'r cwmni sydd, yn ôl aelod o’r gynulleidfa, “byth yn methu â chreu argraff”, yn hoff iawn ohoni. Greg Palmer yw Cyfarwyddwr Cerdd Operation Julie a bu’n trafod chwaeth gerddorol seicedelig Smiles a’r recordiau a ddylanwadodd arno gydag e yn ystod cyfnod creu’r ddrama. “Cyfeiriodd Smiles at nifer o fandiau'r cyfnod – Caravan, Hawkwind, Incredible String Band. Ers dechrau'r broses, rydw i wedi bod yn hynod o awyddus i adlewyrchu tuedd gerddorol y cyfnod ym myd sain y ddrama, gan gynnwys bandiau Cymraeg gwych y cyfnod megis Budgie a Man.”

Yn siarad heddiw, dywed Alston 'Smiles' Hughes fod y mudiad asid wedi ymwneud cymaint â ffordd o fyw cynaliadwy ac ymrwymiad i achub y blaned ag yr oedd yn ymwneud â theithiau seicedelig: “Roedden ni'n codi'r faner ac yn dweud edrychwch, edrychwch, mae hyn yn argyfwng. Ry'n ni [bodau dynol] yn gwario cyfalaf y byd, 'dyn ni ddim yn byw oddi ar y llog, ry'n ni'n gwario'r cyfalaf. Ac edrychwch ar gyflwr y byd nawr. Dylen nhw fod wedi gwrando – dylen nhw fod wedi blydi gwrando... Ar y pryd [yn y 1970au], roedd yna dal y cyfle a'r amser i newid. Fe allen ni fod wedi newid llawer o bethau yn y gymdeithas, ac yn lle hynny aethon ni i’r ffordd arall, ar ein pennau i brynwriaeth fyd-eang.”

Mae Smiles yn gobeithio bod y ddrama’n adlewyrchu difrifoldeb ei ddyheadau ar y pryd, ond hefyd y llawenydd o fyw trwy gyfnod cyffrous: “Roedd yn amser bendigedig. Fe gawson ni gymaint o hwyl, gredech chi byth!”