Amdanom ni
Mae Theatr na nÓg ar genhadaeth i danio dychymyg cenedl. Rydym yn credu yng ngrym theatr ragorol i ysbrydoli newid gydol oes, a chyfoethogi bywydau pobl o bob oed. Wedi'i wreiddio yng Nghymoedd Cymru, rydym yn creu theatr wreiddiol yn Saesneg a Chymraeg sy'n ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd o bob oed ledled Cymru a thu hwnt.
Ystyr ein henw yw ‘theatr ieuenctid tragwyddol,’ ac rydym yn dod â’r egni a’r angerdd hwn i greu sioeau rhagorol sy’n wirioneddol gysylltu â chynulleidfaoedd o Abertawe i Singapore. Rydyn ni wrth ein boddau yn dod â straeon pobl gyffredin sy'n cyflawni pethau anghyffredin yn fyw.
Rydym yn gweithio gyda, ac yn creu cynyrchiadau gwreiddiol ar gyfer, cynulleidfaoedd ifanc ac ysgolion, ac rydym hefyd yn ddarparu gwaith prif lwyfan yn rheolaidd gan apelio at gynulleidfaoedd o bob oedran.
Sefydlwyd Theatr na nÓg dros 30 mlynedd yn ôl i ddiwallu anghenion y gymuned yng Ngorllewin Morgannwg. Rydyn ni wedi dod yn bell ers hynny, ond mae ein hethos wedi aros yr un peth. Credwn y dylai pobl o bob oed a chefndir gallu profi theatr fyw hygyrch o'r safon uchaf.
Fel elusen gofrestredig, rydym yn dibynnu ar y gefnogaeth o Gyngor Celfyddydau Cymru, cwmnïau preifat a chyllidwyr eraill i gyflawni ein gwaith. Pob blwyddyn mae mwy na 16,000 o bobl ifanc a'u teuluoedd yn mynychu ein perfformiadau addysgol.
Rydyn ni'n mwynhau breuddwydio am gydweithrediadau cyffrous y tu allan i fyd y theatr, rydyn ni wedi cyd-gynhyrchu a chydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau, yn fwyaf diweddar Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Awdurdod Porthladd Harbwr Caerdydd, Hodge Bank. Mae cyfoeth o brosiectau dysgu creadigol wedi cynnig cyfle inni weithio gyda sefydliadau gan gynnwys Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru, Amgueddfa Hanes Naturiol (Llundain), Canolfan Wyddoniaeth Singapore a Gŵyl Wyddoniaeth Prydain.
Cynhyrchiadau TNN Productions LTD
Is-gwmni i Theatr na nÓg yw Cynhyrchiadau TNN Production LTD ac fe’i sefydlwyd yn 2015 i gynorthwyo’r elusen i gyflawni ei brîff o gynhyrchu theatr o'r safon uchaf ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed.