Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr na nÓg a Theatr Brycheiniog.

Mae Gwarchod y Gwenyn gan Katherine Chandler, yn adrodd stori’r hyn sy’n digwydd pan fydd y gwanwyn wedi deffro ac mae’r holl fywyd gwyllt anhygoel yn dihuno ar ôl gaeaf hir ac oer, gan gynnwys ein cyfaill Bron, y wenynen fêl. Ymunwch â hi a’i chyfeillion gwych wrth iddi rannu’i hanturiaethau cyffrous o beillio byd rhyfeddol y blodau a’r planhigion. Cawn gyfarfod â hen ffrind Bron, Bertie Bee, ar waelod pentwr y cwch gwenyn prysur. Mae’n treulio’i ddyddiau’n peillio hen afalau diflas, er y byddai’n llawer gwell ganddo fod yn rhydd i beillio blodau gwylltion yn lle. Mewn eiliad o wrthryfel, mae’n gadael y cwch gwenyn, gan roi’r holl haid mewn perygl – gan gynnwys ei ffrind gorau Bron. Nawr rhaid i Bertie fod yn ddewr. Beth fydd yn digwydd nesaf? Pwy yw’r Cranc-Gorryn dirgel? A fydd Bertie’n llwyddo ac yn achub ei ffrindiau? Gyda cherddoriaeth fyw a gyfansoddwyd gan Barnaby Southgate.

Perfformiwyd fel prawf awyr agored i Lywodraeth Cymru yn Mehefin 2021 ar Gae Chwarae’r Brenin Siôr V, Aberhonddu.

Noddwyd gan Project Partners Stage Lighting Services, Calibre Connections, a Llanfaes Dairy.

Cast
Aled Herbert
Sarjent Major Beelko / Glas / Woody / Pry Cop Cranc
James Ifan
Berti
Lara Lewis
Bron
Cynhyrchiad
Katherine Chandler
Awdur
Geinor Styles
Cyfarwyddwr
Vikki Chandler
Rheolwr Llwyfan
Geraint Chinnock
Rheolwr Cynhyrchu
Phylip Harries
Cyfieithiad Cymraeg
Barnaby Southgate
Cyfansoddwr
Stage Lighting Services
Offer Llwyfan & Technegol
Emma Stevens Johnson
Hyfforddwr Llais
Dan Thomas
Cynllunydd & Gweithredwr Sain
Daisy Williams
Coreograffydd
Aled Wyn Williams
Cynllunydd Set & Gwisgoedd
Cefnogwyr