Rydym yn gyffrous i gynnal clyweliadau ar gyfer

The Fight

ar Chwefror 8fed 2024

Yng nghymoedd difreintiedig y 1930au, roedd bocsio yn fwy na fath o chwaraeon; roedd yn ffordd allan o dlodi. Dylai Cuthbert Taylor o Merthyr, sydd nawr yn cael ei weld fel un o focswyr orau ei genhedlaeth, fod wedi cael y cyfle i frwydro am deitl Prydeinig, ond cafodd ei wrthod oherwydd lliw ei groen.

Dyddiadau'r prosiect yw Awst 12fed - Tachwedd 22ain 2024

Fe fydd ymarferion yng Nghastell Nedd.

Fe fydd pefformiadau yn Theatr Dylan Thomas Abertawe a Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu.

Rydym yn edrych i gastio rôlau Cuthbert Taylor a'i dad Charlie Taylor.

 

Cuthbert Taylor

Oedran chwarae: Yn amrywio o 14 i ganol 30au

Ethnigrwydd: Du neu drefdaeth gymysg - o gefndir Affricanaidd / Caribïaidd

Y gallu i focsio

Acen cymoedd Cymraeg

 

Charlie Taylor

Oedran chwarae: 25- 45

Ethnigrwydd: Du neu drefdaeth gymysg - o gefndir Affricanaidd / Caribïaidd

Y gallu i focsio

Acen cymoedd Cymraeg

 

Bydd y clyweliad yn cynnwys sgwrs cyflym i ni cael dod i'ch adnabod ac i chi cael dod i adnabod ni, wedyn mae yna ychydig o bethau i chi baratoi:

  • Ochrau o'r sgript wedi'i darparu
  • Spario gyda Kev. Bydd menyg a phadiau wedi'u darparu

The panel will consist of Kevin McCurdy, director; Carly Hughes, assistant director; Geinor Styles, Artistic Director of Theatr na nÓg.

Bydd y panel yn cynnwys Kevin McCurdy, cyfarwyddwr; Carly Hughes, cyfarwyddwr cynorthwyol; Geinor Styles, Cyfarwyddydd Artistig Theatr na nÓg.

 

Dyma rhai canllawiau ychwanegol...

Sut allai ymgeisio?

Rydym eisiau cwrdd ag actorion sydd eisiau gweithio gyda Theatr na nÓg. Rydym yn angerddol dros y gwaith rydym yn creu ar gyfer ein cynulleidfaoedd. Os rydych yn teimlo affinedd gyda'n gwaith, cysylltwch â ni dros ebost: drama@theatr-nanog.co.uk

Pa mor hir fydd pob clyweliad?

Rydym yn dyrannu slot 20 munud i chi gwrdd â'r panel, darllen yr ochrau a sbario gyda Kev McCurdy.

A gall fy asiant ymgeisio drosof i?

Gallant. 

Dylen i ddanfon fy CV a headshot i chi?

Ie plis.

Pryd fyddai'n clywed ganddoch chi ar ôl y clyweliad?

Fe fyddwn yn cysylltu â chi o fewn wythnos o'r cyfweliad. Ar ôl y cyfweliad, byddwn yn cadw eich enwau ar ffeil ac os rydym yn meddwl byddech yn addas ar gyfer rôl yn y dyfodol, byddwn mewn cysylltiad i'ch gwahodd i glyweliad penodol.

 

Os nad ydym wedi ateb eich cwestiwn yma, gallwch gysylltu â ni ar 01639 641771 neu drwy ebostio drama@theatr-nanog.co.uk

Photo of two black men in dark coats

Yn y llun: Cuthbert Taylor a'i dad, Charlie Taylor