Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn Gwobr Admiral yng Ngwobrau Dathlu'r Celfyddydau 2021 drwy Celfyddydau a Busnes Cymru.

Mae cael ein cynnwys fel rhan o seremoni wobrwyo sy'n dathlu'r cryfder a'r ymroddiad sy'n gynhenid i'r diwydiant yn anrhydedd, ond mae ennill Gwobr Admiral yn hwb enfawr i ni fel cwmni.

Yn dilyn blwyddyn sydd wedi bod yn flwyddyn anodd i ni i gyd yn y diwydiant, rydyn ni yn Theatr na nog yn ddiolchgar am y wobr hon ac yn falch o fod yn rhan o gasgliad sydd wedi dangos y fath gwytnwch trwy gydol y pandemig.

Rydym yn edrych ymlaen at gymryd yr un egni a phositifrwydd i mewn i 2022!