FEL ACTOR

Mae Keiron yn fwyaf adnabyddus am chwarae'r deintydd truenus ROGER BAILEY yng nghomedi sefyllfa BBC1 MY FAMILY. Mae ei waith teledu arall yn cynnwys STILL OPEN ALL HOURS (BBC1) ABERFAN: FIGHT FOR JUSTICE (BBC CYMRU) Sioe sgets BBC Cymru LUCKY BAG, HIGH HOPES, CRASH (BBC Cymru) a CASUALTY (BBC 1), THE MIMIC (Channel 4).

Mae ei waith ffilm yn cynnwys: BITTERSWEET SYMPHONY, BENNY AND JOLENE ar gyfer Verve Pictures, A WONDERFUL CHRISTMAS TIME a BLACK MOUNTAIN POETS ar gyfer Jolene Films, BLUE MONDAY ar gyfer Blue Monday Films, CHARIOT ar gyfer Chariot Films.
 
Mae Keiron wedi gweithio’n helaeth gyda MAPPA MUNDI THEATRE COMPANY dros ei hanes 24 mlynedd yn chwarae Hamlet, Henry V, Feste yn Twelfth Night, Orlando yn As You Like It, Oberon yn A Midsummer Night’s Dream, Valmont yn Dangerous Liaisons, Syr Charles Sedley yn Compleat Female Stage Beauty a chymeriadau amrywiol yn Still Life ac yn fwyaf diweddar Syr Edward Clarke yn The Trials of Oscar Wilde. Ef ysgrifennodd Still Life hefyd, cyd-addasodd Canterbury Tales a The Three Musketeers ar gyfer y cwmni, addasodd Moll Flanders a chyfarwyddodd Tartuffe.

Mae ei waith theatr arall yn cynnwys: Bob Acres yng nghynhyrchiad Sir Peter Hall yn y West End o THE RIVALS, ALICE IN WONDERLAND, THE WIND IN THE WILLOWS, THE BORROWERS, THE LION, THE WITCH AND THE WARDROBE, ARABIAN NIGHTS  (Sherman Cymru), LIGHTSPEED FROM PEMBROKE DOCK (Dirty Protest), Heisenberg yn COPENHAGEN (Theatr Cadair) FEAR OF DROWNING (Black Sheep Theatre), Yvan yn ART, Malcolm yn BEDROOM FARCE, Angus yn NEVILLE’S ISLAND (Black Rat), Jimmy yn A HISTORY OF FALLING THINGS (New Vic Theatre), Buttons yn CINDERELLA a Much yn ROBIN HOOD (Hiss and Boo/Newport Riverfront Pantomimes), LOVE AND MONEY (Waking Exploits)  REVERIE (yellobrick)  Lol yn CIDER WITH ROSIE,  Dylan Thomas yn A CHILD'S CHRISTMAS IN WALES (Theatr na nÓg).
Mae wedi gweithio'n helaeth i Radio 4 a Radio Wales.

FEL AWDUR

Mae Keiron hefyd yn awdur gan addasu AESOP'S FABLES, CYRANO, THE WHITE FEATHER a BETWEEN A ROCK AND A HARD PLACE ar gyfer Theatr na nÓg yn ogystal â STILL LIFE, MOLL FLANDERS, THE THREE MUSKETEERS a THE CANTERBURY TALES ar gyfer Mappa Mundi Theatr Company.

Gyda'i gyd-awdur Giles New mae ganddo ddwy ffilm bellach yn cael eu cynhyrchu A CHRISTMAS NUMBER ONE i'w ryddhau Nadolig 2021 ar Sky Cimena a THE CANTERVILLE GHOST, addasiad animeiddiedig o stori fer Oscar Wilde gyda Stephen Fry yn y brif ran. Maent wedi ysgrifennu'n helaeth ar gyfer Teledu a Radio, ac mae eu credydau'n cynnwys SADIE J (CBBC), GROOVE HIGH (Disney Channel), SHAUN THE SHEEP (Aardman) a MITCHELL AND WEBB (BBC 2). Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw sawl prosiect ffilm nodwedd arall yn cael eu datblygu gyda LUPUS FILMS a CANTILEVER.

Mae Keiron hefyd wedi ysgrifennu a chyfarwyddo sawl ffilm fer ei hun, ARE WE THERE YET, FRIEND, WHAT GOES ON TOUR, DAD'S HAND a dros y pedair blynedd diwethaf mae wedi helpu i greu dwsinau o ffilmiau byr gyda myfyrwyr y mae'n eu dysgu yn PCYDDS yng Nghaerfyrddin.