Daw Non yn wreiddiol o Ddyffryn Clwyd, ac fe raddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd yn 2012.

Mae ei gwaith theatr yn cynnwys The Chimes (Lighthouse Theatre), The Storyhunters (Clwyd Theatr Cymru), Blodeuwedd (Theatr Genedlaethol Cymru), We Need Bees/Gwobr y Gwenyn Gweithgar (Theatr na nÓg), Trywerynws (Cwmni Mega), yn ogystal a nifer o weithdai a darlleniadau i Sherman Cymru a Dirty Protest Theatre.

Mae ei gwaith teledu a radio yn cynnwys Y Gwyll/Hinterland (BBC Cymru Wales/S4C/Fiction Factory), Parch (Apollo/Boom Cymru), Being Human (Touchpaper/BBC3) a Rhosod (BBC Radio Cymru).