Mae Elin yn wreiddiol o Aberystwyth. Symudodd i Lundain i hyfforddi ar gwrs ‘Musical Theatre’ Italia Conti Arts Centre.

Ers graddio, mae Elin wedi perfformio mewn nifer o gynyrchiadau theatr broffesiynol yn cynnwys Princess Jasmine yn Aladdin (The Lyric Theatre), Dancer/Understufy Dandini yn Cinderella (PantoLive).

Mae ei chredydau teledu yn cynnwys Age of Outrage (BBC Wales), Pobl y Cwm (S4C) a chyd-gyflwyno y Womenspire Awards 2020/2021 (ITV Wales Online).

Roedd Elin yn rhan o fersiwn radio Arandora Star i’r cwmni blwyddyn diwethaf ac mae’n edrych ymlaen yn fawr i gael perfformio’r ddrama ar lwyfan!