Datblygodd diddordeb Kieran mewn drama a cherdd yn 6 oed, pan ddechreuodd chwarae’r piano a’r drymiau/offerynnau taro. Astudiodd Cerddoriaeth yn y ‘Tech Music Schools’ yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru lle mae wedi datblygu ei yrfa fel cerddor, actor a chyfansoddwr proffesiynol.

Yn ystod y cyfnod ‘lockdown’ yn 2020/2021, ysgrifennodd sioe gerdd ei hunan o’r enw “Turning the Wheel” am hanes y diwydiant cloddio glo yn Ne Cymru - mae’n gobeithio i ddatblygu hyn yn bellach blwyddyn yma.

Mae Kieran wrth ei fodd i fod yn gweithio gyda Theatr Na’nÓg eto ac yn enwedig i berfformio o flaen cynulleidfa fyw unwaith eto.