Mae Mark yn dychwelyd i Theatr Na'nÓg i chwarae Guido unwaith eto, ar ôl chwarae’r rhan yn fersiwn radio ‘Arandora Star’ yn 2020.

Ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru blwyddyn ddiwethaf, mae e wedi ymddangos yn Rownd a Rownd (S4C), Bravo Two Charlies (BBC Radio Wales) ac fe fydd Mark yn ymddangos yn Itopia (S4C) yn hwyrach yn y flwyddyn.