Yn wreiddiol o Gaerffili, astudiodd Jemima yng Nghanolfan Berfformio Cymru yng Nghaerdydd a California State University Long Beach, a graddiodd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Perfformio.

Credydau Theatr yn cynnwys: Comedi gwreiddiol, The Invisible Man a Hansel & Gretel (BlackRAT Productions), Basil & the Ice Witch: A New Adventure in Tickledom (TickledomProductions), Jack & The Beanstalk, Cinderella, Aladdin, Stereophonics Musical Word Gets Around (RCT Theatres), Cadoc and the Drowned Boys (Contemporancient Theatre) Lego Shows Live! Bahrain (ATW Lego Events). Credydau Teledu yn cynnwys:  Beth Wnei Di a Gwaith Cartref ar gyfer S4C. 

Yn ddiweddar, gweithiodd Jemima gyda chyfarwyddwr Llinos Daniel ar ddatblygiad sioe gerdd newydd 'Turning the Wheel' a ysgrifennwyd gan Kieran Bailey ac mae'n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda Llinos a gweddill tîm arbennig Theatr na nÓg ar 'Heliwr Pili Pala'.