Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Cêt bellach yn byw yn Nghaerdydd. Mae hi’n berfformiwr llawrydd ac wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau theatr, dawns a theledu Cymru ers dros deng mlynedd. Mae Cêt yn arbenigo mewn dawns ac yn mwynhau plethu eu doniau symud, actio, ysgrifennu a darlunio er mwyn creu gweithiau aml ddisgybliedig. Yn ogystal â pherfformio mae Cêt hefyd yn gweithio fel coreograffydd ac wedi cyd greu nifer o sioeau gydag artistiaid a chwmnïau ar lwyfannau mawr, bach, digidol ac awyr agored ar draws y wlad.