Mae Elwyn yn wreiddiol o Gaerdydd. Hyfforddodd yn Mountview ar y cwrs BA (Anrh) theatr gerdd. Tra'n hyfforddi, roedd ei rolau'n cynnwys Javet yng nghynhyrchiad ysgol ddrama gyntaf Les Misérables a Charles Hart yn Nell Gwyn. Bu Elwyn yn ddigon ffodus i wneud ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf y llynedd gyda Theatr na nÓg yn perfformio yn Y Naid ac mae wrth ei fodd yn dychwelyd i’r cynhyrchiad. Yn fwyaf diweddar, chwaraeodd Elwyn ran Alfred Russel Wallace yn Heliwr Pili Pala gan Theatr na nÓg. Mae Elwyn yn Gymro Cymraeg balch.