Bydd y sioe yn Saesneg gyda Chymraeg mewn rhai golygfeydd.

Mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Technocamps. Datblygu a chefnogi pobl ifanc i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru a'r Byd.

Perffaith ar gyfer Cam Cynnydd 3

 

Ysgrifennwyd gan Geinor Styles

Cyfarwyddwyd gan Kev McCurdy

 

I leihau cost eich taith gallwch ymgeisio am grant o Gronfa Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru.

Gall ysgolion ymgeisio am hyd at £1,000 i dalu am hyd at 90% o gostau'r profiad, gan gynnwys eich tocyn a'r costau teithio.

I ddysgu mwy ac i ymgeisio cliciwch yma

Pecynnau

Abertawe

Ysgolion Cynradd:

Ar gael Dydd Mawrth i Ddydd Gwener (Dwyieithog)

Diwrnod llawn gweithgareddau:

  • Perfformiad o'r sioe 'The Fight' yn Theatr Dylan Thomas (am 10yb neu 1yp)
  • Q&A gyda'r cast
  • Gweithdai am ddim yn Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu'r sioe

Ysgolion Uwchradd:

Ar gael ar Ddydd Llun a dyddiau eraill ar ofyn: 

  • Perfformiad o'r sioe 'The Fight' yn Theatr Dylan Thomas (am 10yb neu 1yp)
  • Sesiwn Holi ac Ateb gyda'r cast
  • Amser i edrych o gwmpas Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (dewisol)
  • Adnoddau ar-lein am ddim

Faint mae’n ei gostio?

 

Rydym yn derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gan nifer o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau tuag at gostau’r prosiect.

Byddwn yn defnyddio’r cyllid hwn er mwyn gostwng y pris i chi, gan ei ostwng i
£9+TAW ar gyfer pob disgybl / oedolyn yn ogystal ag un tocyn oedolyn am ddim gyda phob 10 disgybl.

Fel amod i’r cyllid hwn, mae angen i ni gasglu adborth gan bob cyfranogwr.

Er mwyn derbyn y pris gostyngol hwn, rydym yn gofyn am dri pheth:

1. Eich bod yn arwyddo’ch contract archebu a fydd yn cael ei e-bostio atoch a’i ddychwelyd oddi fewn 7 diwrnod o’i dderbyn.
2. Eich bod yn cwblhau arolwg syml, ar-lein oddi fewn i 10 diwrnod o’ch ymweliad.
3. Eich bod yn talu’ch anfoneb oddi fewn 30 diwrnod wedi’ch ymweliad.

Byddwn yn anfon negeseuon atoch i’ch atgoffa, felly does ddim angen i chi boeni am anghofio gwneud hyn.

Cast
Cynhyrchiad
Cefnogwyr