Mae Kate yn Rheolwr Gweithrediadau yn Hospital Innovations, Cwmni Dyfeisiau Meddygol lleol lle mae'n gyfrifol am Adnoddau Dynol, Cydymffurfiaeth a Rheoleiddio. Cyn hynny, bu’n gweithio fel Rheolwr Prosiect yn y sector TG. Mae Kate yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr a'i merch ifanc ac mae'n edrych ymlaen at fynd â hi i'r theatr cyn gynted ag y bydd hi'n ddigon hen!