Dyma’r fath o stori yr ydych eisoes wedi clywed sibrydion amdani. 

Dyma’r fath o stori na fyddwch yn gallu credu ei bod erioed wedi digwydd. Ond byddwch yn siarad â phobl amdani a byddant yn cofio. Byddant yn adnabod pobl a oedd yno.  

Mae’n stori sydd wedi esblygu y tu hwnt i bob dirnadaeth ac mae’r ffiniau rhwng y gwirionedd a’r hyn sy’n chwedloniaeth yn rhai amwys. Mae’n stori a gadwodd dafodau’r ardal leol yn brysur, yn ogystal â’r wasg fyd-eang. 

Os nad ydych wedi clywed yr hanes, dewch i ni ddechrau drwy adrodd y ffeithiau.  

Y Ffeithiau 

  • Operation Julie oedd yr enw a roddwyd ar un o’r gweithrediadau cyffuriau, cudd mwyaf a welodd y DU erioed. Roedd heddluoedd o 11 llu a dros 800 swyddog yn gweithio ar yr achos yng nghanol y saithdegau. 
  • Dechreuodd yr ymchwiliad yn sgil damwain car angheuol ym Machynlleth a roddodd abwyd annisgwyl i’r heddlu a daeth i ben mewn gweithrediad cyffuriau a gydlynwyd ar 26 Mawrth 1977 pan gafodd 120 o bobl eu harestio ledled Cymru, Lloegr a Ffrainc. 
  • Roedd y llwyth cyffuriau y daethpwyd ar ei draws yn anhygoel. Canfuwyd LSD a allai gael ei werthu ar y stryd heddiw am 3570 miliwn. Yn sgil y gweithrediad, tynnwyd 90% o’r LSD o farchnad y DU a achosodd hyn i bris y cyffur esgyn i bum gwaith ei werth stryd cyn 1977.    
  • Ble roedd canolbwynt y gweithrediad? Bryniau gwledig gorllewin Cymru.  

Ond… a dyma’r hyn sydd wir yn ddiddorol; mae mwy i’r stori hon na’r ffeithiau’n unig. 

Mae’n hanes am ysfa efengylaidd un dyn i drawsffurfio’r ymwybyddiaeth ddynol. Mae’n hanes am bobl eithriadol mewn mannau annisgwyl. Mae’n hanes am weithrediad a drawsnewidiodd blismona Prydeinig am byth. Mae’n hanes am gamsyniadau hunaniaeth, canfyddiadau camarweiniol ac amseru comig.   

Mae Theatr na nÓg yn falch i fod yn cydweithio â Chanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth er mwyn cyflwyno’r perfformiad prog-rock, croch hwn o hanes  Operation Julie. Cadwch olwg allan ar gyfer ein digwyddiad agoriadol arbennig yn Nhregaron, tarddle’r hanesyn a bydd y digwyddiad yn rhan o ddigwyddiadau ymylol Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2020.  

Am newyddion am Operation Julie, gan gynnwys cyhoeddiadau am docynnau ac am ffyrdd y gallwch gyfrannu at un o’n prosiectau mwyaf uchelgeisiol, hyd yma, ymunwch â’n rhestr bostio.

Darllenwch mwy yn ein DATGANIAD I'R WASG