Mae un o gynhyrchiadau mwyaf poblogaidd Theatr na nÓg, 'Ysbryd y Pwll' yn dychwelyd i'r llwyfan yr Hydref hwn.

Ar dydd Llun y 10fed o Fawrth 1890, lladdwyd 87 o lowyr gan ffrwydriad ym mhwll glo Morfa, Taibach.

Y diwrnod hwnnw, dylai 450 o ddynion wedi bod wrth eu gwaith ond arhosodd 200 ohonynt adref a wnaethant fyw, tra farwodd eraill. Cafwyd adroddiadau o ymddangosiadau ysbrydol a seinau iasol eu rhoi yn ystod y Cwest. A fydd wir achos y drychineb yn dod i'r gorwel?

Mae'r sioe yn ymchwilio i arswyd y drychineb o adroddiadau uniongyrchol, erthyglau papurau newydd y cyfnod a'r Cwest Swyddogol. Unwaith eto, bydd Theatr na nÓg yn cyflwyno eich myfyrwyr i fywydau pobl arferol yn byw mewn cyfnodau eithriadol yn hanes Cymru.

Perfformiad rhagorol arall gan actorion ardderchog...yn disgwyl mlan yn barod at Hydref 2017.
Ysgol Felindre
Cast
Aled Herbert
Cast
Richard Nichols
Cast
Jack Quick
Cast
Tonya Smith
Cast
Ardderchog - prin yw'r cyfleoedd i blant wylio cynhyrchiad ddramatig Cymraeg erbyn hyn, felly roedd y profiad heddiw yn un a fydd yn aros yn hir yn y cof i nifer.
Ysgol Abercynon
Cynhyrchiad
Mali Tudno Jones
Awdur
Geinor Styles
Awdur & Chyfarwyddwr
Gareth Brierley
Cynllunydd Sain
Kitty Callister
Cynllunydd
Elanor Higgins
Cynllunydd Goleuo
Brynach Higginson
Rheolwr Llwyfan
Daniel Lloyd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Jak Poore
Cyfansoddwr
Sasha Tee
Rheolwr Llwyfan
James Went
Ymgynghorydd lledrithiwr y Llwyfan
Drama llawn cyffro ac emosiwn wedi'i hysgrifennu a'i berfformio'n dda...diolch yn fawr.
Ysgol Dewi Sant

I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma