Theatr na nÓg yn dathlu prosiect ysgol leol a ysbrydolwyd gan gynhyrchiad theatr

"Mae gwneuthurwyr theatr y dyfodol yma, ac mae'n rhaid i ni eu meithrin a'u dathlu."


Heddiw ar y 10fed o Fai - yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, cyflwynwyd Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies i Ysgol Blaenymaes. Mae’r wobr yn cydnabod y prosiect artistig a ysbrydolwyd gan ymweliad â chynhyrchiad Theatr na nÓg, sef Prawf Elgan Jones. Mynychwyd y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd gan yr actor Richard Nichols, gan dair ysgol, sef Ysgol Gynradd Blaenymaes, Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas ac Ysgol Gynradd Dewi Sant G.R, ar restr fer y wobr.

Mae'r wobr yn annog plant ysgol ar draws de Cymru i ddathlu ac arddangos eu creadigrwydd drwy gynhyrchu fideo byr sy'n dangos eu gwaith wedi'i ysbrydoli gan y perfformiad.

Mae Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies, a sefydlwyd yn 2018, yn coffau Carolyn Davies, Ymgynghorydd y Celfyddydau a chyn-gadeirydd Theatr na nÓg. Roedd ymroddiad Carolyn i osod y celfyddydau yng nghanol y cwricwlwm yn ysgolion Gorllewin Morgannwg ymhell o flaen ei hamser. Roedd ei hymrwymiad i ysgolion i feithrin cysylltiadau cryf rhwng Theatr na nÓg ac felly mae’r wobr yn ffordd addas iddi gael ei choffáu.

Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Ysgol Gynradd Creunant yn 2018, ac yn fwy diweddar, yn 2020, derbyniodd Ysgol Gynradd Cwmafan y plac buddugol.

Eglurodd Geinor Styles, Cyfarwyddydd Artistig Theatr na nÓg, “Er mae’n wobr gymharol newydd, rydym yn gweld cynnydd yn y nifer o ysgolion sy’n cymryd rhan a hefyd mae ansawdd y cynnwys creadigol yn gwella bob blwyddyn, ac nid yw 2023 wedi bod yn eithriad. Eleni mae Ysgol Blaenymaes yn enillwyr teilwng iawn, ar ôl dehongliad medrus ac aeddfed o’r ddrama a sut mae’n cefnogi eu dysgu yn ôl yn y dosbarth.”

"Fe wnaethon ni greu'r wobr i amlygu a chydnabod effaith bositif i theatr fyw. Rydyn ni wrth ein bodd y gallant adael y theatr, a pharhau â'r broses greadigol a chyflwyno rhai o'r darnau mwyaf creadigol ac ysbrydoledig ar ôl wylio cynhyrchiad theatr. Mae gwneuthurwyr theatr y dyfodol yma, a rhaid inni eu meithrin a'u dathlu."

Y beirniaid eleni oedd ffrind agos Carolyn Davies a’i chydweithiwr Sandra Morgan. Ymunodd Leisa Williams a Steph Mastoris â hi o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Luke Clement o Technocamps, a Stuart Harries o’r cwmni cyfrifwyr Carr Jenkins a Hood. Dyfarnwyd Plac Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies i’r ysgol fuddugol, Ysgol Gynradd Blaenymaes, gwobr ariannol o £250 a roddwyd gan y noddwyr Carr, Jenkins a Hood, yn ogystal â gweithdy codio am ddim gan yr addysgwyr arloesol Technocamps. Mi fydd Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas a Ysgol Gynradd Dewi Sant G.R hefyd yn derbyn £150 a £100, yn y drefn honno.

Parhaodd Geinor Styles: "Ers dros 40 mlynedd, mae Theatr na nÓg wedi gweithio'n ddiflino i sefydlu perthynas gref gydag ysgolion a'u myfyrwyr. Mae’r cwmni yn ymfalchïo mewn galluogi pobl ifanc o bob cefndir i brofi theatr fyw, gan eu hysbrydoli i ddatgloi eu potensial."

Mae Theatr na nÓg yn annog ysgolion sy’n dymuno cystadlu am Wobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2024 i ymweld â chynhyrchiad Heliwr Pili Pala yn yr hydref a chyflwyno fideo yn arddangos eu prosiect creadigol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn theatr-nanog.co.uk/cy/sioeau


DIWEDD