Bydd y sioe yn Saesneg gyda Chymraeg mewn rhai golygfeydd.

'Breeding Boxers on the Breadline'

Yng nghymoedd difreintiedig y 1930au, roedd bocsio yn fwy na fath o chwaraeon; roedd yn ffordd allan o dlodi. Dylai Cuthbert Taylor o Merthyr, sydd nawr yn cael ei weld fel un o focswyr orau ei genhedlaeth, fod wedi cael y cyfle i frwydro am deitl Prydeinig, ond cafodd ei wrthod oherwydd lliw ei groen.

 

Perffaith ar gyfer Cam Cynnydd 3

Mae sioe newydd gan gwmni arobryn Theatr na nÓg yn cyflwyno’ch plant i themâu fel:

  • Bywyd yng nghymunedau dosbarth gweithiol y cymoedd yn y 1920au-40au
  • Hiliaeth sefydliadol, mewnfudo a gwladychiaeth
  • Hanes bocsio ddoe a heddiw

Byddwch yn rhan o’n prosiect Hydref ac yn un o’r nifer o ysgolion rydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd greadigol a hwyliog. Dyma ein 35ain blwyddyn o greu theatr unigryw o ansawdd uchel i ysgolion, ar hyn o bryd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Technocamps. Datblygu a chefnogi pobl ifanc i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru a'r Byd.

 

Ysgrifennwyd gan Geinor Styles

Cyfarwyddwyd gan Kev McCurdy

 

Mae llawer o ysgolion yn gwneud cais am grant gan Gronfa Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru i leihau eu costau er mwyn dod.
Gall ysgolion ymgeisio am hyd at £1,000 i dalu am hyd at 90% o gostau'r profiad, gan gynnwys eich tocyn a'r costau teithio.

I ddysgu mwy ac i ymgeisio cliciwch yma

Pecynnau

Abertawe

Ysgolion Cynradd:

Ar gael Dydd Mawrth i Ddydd Gwener (Dwyieithog)

Diwrnod llawn gweithgareddau:

  • Perfformiad o'r sioe 'The Fight' yn Theatr Dylan Thomas (am 10yb neu 1yp)
  • Holi ac Ateb gyda'r cast
  • Gweithdai am ddim yn Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu'r sioe

Ysgolion Uwchradd:

Ar gael ar Ddydd Llun a dyddiau eraill ar ofyn: 

  • Perfformiad o'r sioe 'The Fight' yn Theatr Dylan Thomas (am 10yb neu 1yp)
  • Sesiwn Holi ac Ateb gyda'r cast
  • Amser i edrych o gwmpas Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (dewisol)
  • Adnoddau ar-lein am ddim

'As a teacher, Theatr Na Nog is my favourite part of the year! This was the first experience some pupils have had at a theatre and they were mesmerised.’
Amy Smith, Athrawes yn Ysgol Gynradd Blaenymaes

Faint mae’n ei gostio?

Rydym yn derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gan nifer o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau tuag at gostau’r prosiect.

Byddwn yn defnyddio’r cyllid hwn er mwyn gostwng y pris i chi, gan ei ostwng i
£9+TAW ar gyfer pob disgybl / oedolyn yn ogystal ag un tocyn oedolyn am ddim gyda phob 10 disgybl.

Fel amod i’r cyllid hwn, mae angen i ni gasglu adborth gan bob cyfranogwr.

Er mwyn derbyn y pris gostyngol hwn, rydym yn gofyn am dri pheth:

1. Eich bod yn arwyddo’ch contract archebu a fydd yn cael ei e-bostio atoch a’i ddychwelyd oddi fewn 7 diwrnod o’i dderbyn.
2. Eich bod yn cwblhau arolwg syml, ar-lein oddi fewn i 10 diwrnod o’ch ymweliad.
3. Eich bod yn talu’ch anfoneb oddi fewn 30 diwrnod wedi’ch ymweliad.

Byddwn yn anfon negeseuon atoch i’ch atgoffa, felly does ddim angen i chi boeni am anghofio gwneud hyn.

Blaenwelediad yr Athrawon

10fed Medi am 2:30yp yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe

  • Eich cyfle i weld y perfformiad yn y theatr i baratoi ar gyfer dod â'ch grŵp

  • Clywch am y gweithgareddau sydd ar y gweill yn yr amgueddfeydd

  • Rhowch eich adborth i ni

Rydym yn argymell yn gryf bod un athro o'ch ysgol yn mynychu i gael y gorau o'r prosiect. Ar gyfer ysgolion o ymhellach i ffwrdd, byddwn yn cynnal sgwrs ar-lein eleni, ond ni fydd hyn yn cynnwys y perfformiad.
Gallwch roi gwybod i ni os gallwch ei wneud ar y ffurflen archebu, ond byddwn yn anfon nodiadau atgoffa!

Cast
Cynhyrchiad
Cefnogwyr